2015 Rhif 1601 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adran 108(3)(a) a (b) o Ddeddf Addysg 2002, caiff Gweinidogion Cymru bennu, mewn cysylltiad â’r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol, drwy orchymyn, y targedau cyrhaeddiad a’r rhaglenni astudio hynny mewn perthynas â phob un o’r pynciau sylfaen y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) yn rhoi effaith gyfreithiol i 12 dogfen (“dogfennau pwnc”) sy’n nodi’r rhaglenni astudio a’r targedau cyrhaeddiad ar gyfer y pynciau sylfaen hynny.

Mae erthygl 3(1) a (2) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn amnewid y diffiniad ar gyfer y ddogfen bwnc ar gyfer pob un o’r pynciau sylfaen a ganlyn—

(a)     Saesneg;

(b)     mathemateg; ac

(c)     Cymraeg.

 Mae erthygl 3(2) hefyd yn mewnosod diffiniad newydd, sef “y ddogfen Cymraeg ail iaith”. Mae’r ddogfen bwnc ar gyfer pob un o’r pynciau sylfaen uchod wedi ei diwygio i adlewyrchu’r newidiadau i raglenni astudio’r pynciau hynny. Effaith y diwygio hwn yw y bydd Gorchymyn 2008 yn rhoi effaith gyfreithiol i’r dogfennau pwnc diwygiedig. Nid yw’r dogfennau pwnc wedi eu diwygio mewn cysylltiad â’r targedau cyrhaeddiad.

Roedd yr un ddogfen bwnc ar gyfer Cymraeg y mae Gorchymyn 2008 yn rhoi effaith gyfreithiol iddi yn darparu rhaglenni astudio a thargedau cyrhaeddiad ar wahân ar gyfer Cymraeg a Chymraeg ail iaith. Mae erthygl 3(3) yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn darparu bod y rhaglenni astudio a'r targedau cyrhaeddiad ar wahân ar gyfer Cymraeg a Chymraeg ail iaith wedi eu cynnwys mewn dogfennau pwnc ar wahân.Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dilyn y rhaglen astudio ar gyfer Cymraeg ac mae ysgolion nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg yn dilyn y rhaglen astudio ar gyfer Cymraeg ail iaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

 


2015 Rhif 1601 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed                                     5 Awst 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Awst 2015

Yn dod i rym                              1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(3)(a) a (b) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]),  yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 1 Medi 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.(1)(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008([2]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2(1)—

(a)     yn y diffiniad o “y ddogfen Saesneg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Saesneg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Curriculum for Wales: Programme of Study for English – Key Stages 2-4”([3])”;

(b)     yn y diffiniad o “y ddogfen fathemateg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cwricwlwm Cymru: Rhaglen Astudio ar gyfer Mathemateg – Cyfnodau Allweddol 2-4”([4])”;

(c)     yn y diffiniad o “y ddogfen Gymraeg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cwricwlwm Cymru: Rhaglen Astudio ar gyfer Cymraeg – Cyfnodau Allweddol           2-4”([5])”; a

(d)     ar ôl y diffiniad o “y ddogfen celf a dylunio” mewnosoder—

ystyr “y ddogfen Cymraeg ail iaith” (“the Welsh second language document”) yw’r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg ail iaith yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru – Cyfnodau Allweddol           2-4”([6]);”.

(3) Yn lle erthygl 15 rhodder—

Cymraeg

15.—(1) Mae’r darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Gymraeg a’r ddogfen Cymraeg ail iaith yn cael effaith at ddibenion pennu’r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Cymraeg.

(2) Nid yw’r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Gymraeg a’r ddogfen Cymraeg ail iaith (sy’n dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.”

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2015                                                                 

 



([1])           2002 p. 32. Diwygiwyd is-adran (3) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).  Mewnosodwyd cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn adran 108 a 210 gan adran 47 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) a pharagraff 11 a 15 o’r Atodlen iddo. 

([2])           O.S. 2008/1409 (Cy. 146) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1787 (Cy. 173).

([3])           Rhif ISBN 978-1-4734-3683-1.

([4])           Rhif ISBN 978-1-4734-3685-5.

([5])           Rhif ISBN 978-1-4734-3684-8.

([6])           Rhif ISBN 978-1-4734-3635-0.